Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Jonathan Demme |
Cynhyrchydd | Jonathan Demme Edward Saxon |
Ysgrifennwr | Ron Nyswaner |
Serennu | Tom Hanks Denzel Washington |
Cerddoriaeth | Howard Shore |
Sinematograffeg | Tak Fujimoto |
Golygydd | Craig McKay |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | TriStar Pictures |
Amser rhedeg | 125 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Philadelphia (1993) yn ffilm sy'n ymwneud â HIV/AIDS, cyfunrywioldeb a homoffobia. Cafodd ei hysgrifennu gan Ron Nyswaner a'i chyfarwyddo gan Jonathan Demme. Mae'r ffilm yn serennu Tom Hanks, Denzel Washington, Joanne Woodward, Jason Robards, Antonio Banderas, Mary Steenburgen, Anna Deavere Smith, Lisa Summerour, Chandra Wilson a Ron Vawter. Ysbrydolwyd y ffilm gan hanes Geoffrey Bowers, cyfreithiwr a ddaeth ag achos llys yn erbyn y cwmni cyfreithiol Baker & McKenzie ym 1987 mewn un o'r achosion cyntaf o ragfarn yn erbyn person ag AIDS.